Mae Cymru wedi datgan bod argyfwng hinsawdd
Mae tywydd eithafol o ganlyniad i chwalfa hinsoddol wedi arwain at fwy o farwolaethau a dinistr o amgylch y byd. O’r tywydd poethaf erioed i fflachlifoedd angheuol, mae bywoliaeth miliynau o bobl yn y fantol.
Mae cyfle eto i atal trychineb o safbwynt effeithiau ar yr hinsawdd na ellir eu dadwneud, ond mae angen gweithredu ym mhob maes.
Mae Llywodraeth Cymru’n rhannu ein dyfalbarhad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond rydym yn barod i ddangos iddynt sut i wneud hyn. O ddadlau dros bolisïau ynni glân i gefnogi ymchwil ac addysg yng nghyswllt yr hinsawdd, rydym yn ymgyrchu dros Gymru fwy gwyrdd a diogel, ac fe allwch chi helpu.
Click here to view in English
Ymunwch â Chyfeillion y Ddaear
Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn rhan o rwydwaith Cyfeillion y Ddaear y DU, a gyda dros 50 mlynedd o brofiad o ddiogelu’r amgylchedd i’n henw, ynghyd â’n cefnogwyr, rydym wedi ennill buddugoliaethau sy’n gerrig milltir ar gyfer ein planed. Fel lansio Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 - cyfraith gyntaf y byd i fynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd.
Bydd eich rhodd reolaidd yn ein helpu i barhau i ddiogelu ein planed. Yng Nghymru, rydym yn gweithio gyda grwpiau lleol brwdfrydig i fynnu gweithredu brys i fynd i’r afael â’r hinsawdd:
✔️ Brwydro yn erbyn tanwyddau ffosil budr. Rydym yn cefnogi cymunedau lleol i wrthwynebu prosiectau newydd ym maes defnyddio tanwyddau ffosil. Ynghyd â galw ar awdurdodau lleol i symud eu buddsoddiadau allan o ynni budr, fel rhan o ymgyrch fyd-eang i waredu tanwyddau ffosil.
✔️Creu trafnidiaeth wyrddach. Mae trafnidiaeth yng Nghymru’n cyfrannu 17% o gyfanswm allyriadau carbon blynyddol y genedl. Ar ôl degawdau o ymgyrchu yn erbyn ffyrdd ar hyd ein rhwydwaith, yn 2023, penderfynodd Llywodraeth Cymru roi’r gorau i bob cynllun mawr i adeiladu ffyrdd. Rydym bellach yn galw am dargedau i ddyblu nifer y teithiau a wneir trwy gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030.
✔️ Hyrwyddo ffasiwn gynaliadwy. Mae potensial i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ym maes ffasiwn gynaliadwy. I gyflawni hyn, rydym yn galw am gynllun gweithredu ar gyfer microblastigion, a chefnogaeth i fusnesau ar gyfer sefydlu mentrau bach ym maes ffasiwn gynaliadwy yng Nghymru.
Aer Glân i Gymru
Dylai pawb allu cerdded i lawr y ffordd yn ddiogel heb orfod poeni am effeithiau niweidiol ar eu hiechyd. Mae llygredd aer yn cyfrannu at dros 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru, ac mae ein hymchwil yn dangos bod pobl sydd ar yr incymau isaf yn y wlad yn anadlu’r aer mwyaf llygredig.
Mewn cam hanesyddol i Gymru, roedd Cyfeillion y Ddaear Cymru ac aelodau eraill o Awyr Iach Cymru wedi ymgyrchu am ddeddfwriaeth aer glân yng Nghymru. Gyda’ch help chi, rydym am sicrhau y caiff cyfraith newydd gadarn ei phasio a fydd yn lleihau lefelau llygredd aer ac yn diogelu bywydau pobl am genedlaethau i ddod.
Eich cyfle i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu amgylcheddol
Pan fyddwch yn ymuno byddwch yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am
ddatblygiadau wrth iddynt ddigwydd. Byddwn yn anfon ein cylchgrawn Earthmatters atoch, sydd wedi ennill sawl gwobr, ac yn rhannu awgrymiadau gan arbenigwyr ar gyfer lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, ac yn eich diweddaru am ddigwyddiadau allweddol ynghyd â dulliau ychwanegol i chi sicrhau mwy o effaith.
Byddwch yn derbyn:
- diweddariadau dethol gan Gyfeillion y Ddaear trwy e-bost
- awgrymiadau gan arbenigwyr o ran sut i fyw bywyd gwyrdd
- ein cylchgrawn Cyfeillion y Ddaear ddwywaith y flwyddyn
Ymunwch nawr Mynnwch Gymru wyrddach, fwy diogel